Datblygwyd yr ymadrodd ‘Ffrangeg Lloegr’ (‘The French of England’) am y tro cyntaf ryw 15 mlynedd yn ôl gydag ymddangosiad y gyfrol ddylanwadol o ysgrifau, Language and Culture in Medieval Britain: The French of England, c. 1100–c. 1500, a olygwyd gan Jocelyn Wogan-Browne o Brifysgol Fordham a’i thîm o gydweithwyr. Mae gwefan y prosiect yn nodi:
‘‘The French of England’ is a term originally designed to challenge easy equations of England with English and to create more attention to a large strand of England’s multilingual culture. … Our new term with its restriction to ‘England’ is designed to suggest that British Frenches cannot be adequately considered through English perspectives: if there is a French of England, there are also Frenches of Wales, Ireland, Scotland, each having its own distinctive history while also participating in the wider stories of French in medieval Europe.’ (https://frenchofengland.ace.fordham.edu)
Am dri diwrnod yr wythnos diwethaf, roedd yn bleser gennym groesawu i Fryste (yn yr heulwen braf!) cynrychiolwyr o bob rhan o’r DU, Ewrop a Gogledd America, gan ymuno ar-lein ac yn bersonol, ar gyfer Cynhadledd ‘Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd’. Ein nod oedd dod ag arbenigwyr mewn astudiaethau canoloesol Celtaidd a Ffrangeg at ei gilydd er mwyn derbyn y gwahoddiad a roddwyd gan y prosiect ‘Ffrangeg Lloegr’ i feddwl am sut olwg fyddai ar Ffrangegau Iwerddon, yr Alban, Cymru, Llydaw a Chernyw. Beth yw eu cyd-destunau, eu taflwybrau a’u dynamegau penodol? Pa heriau a chyfleoedd methodolegol sydd yn y fantol? Beth yw eu goblygiadau ehangach i hanesion ieithyddol, diwylliannol a gwleidyddol ein gwladwriaethau, is-wladwriaethau, a rhanbarthau modern?
Cawsom y fraint o agor y gynhadledd gydag anerchiadau gan yr Athro Helen Simpson, Dirprwy Is-ganghellor Cyswllt (Ymchwil ac Arloesedd) ym Mhrifysgol Bryste a Dr Tristan Kay, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol.


Mae’r rhain yn gosod y llwyfan ar gyfer rhaglen wych o bapurau eang eu cwmpas yn archwilio cymhlethdodau cyd-destunau Celtaidd yr iaith Ffrangeg ganoloesol yn ei swyddogaethau llenyddol a gweinyddol. Mae’n amhosib tynnu sylw at gyfraniadau unigol, ond roeddem yn arbennig o falch o groesawu dau brif siaradwr, sydd yn enwog yn rhyngwladol am eu gwaith arloesol yn y maes hwn.

Y cyntaf oedd Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, Cymrawd er Anrhydedd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gynt Pennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Aeth darlith Dr Lloyd-Morgan, ‘In Search of French Manuscripts in Medieval Wales’, â ni ar daith hynod ddiddorol o amgylch y testunau Ffrangeg a oedd yn cylchredeg yng Nghymru’r Oesoedd Canol, fel y tystiwyd mewn amrywiaeth o gofnodion a chyfieithiadau.

Traddodwyd ein hail brif-ddarlith gan yr Athro Keith Busby, Athro Ffrangeg Canoloesol Emeritws Douglas Kelly, Prifysgol Wisconsin–Madison a Chymrawd Academi Ganoloesol America. Roedd darlith yr Athro Busby, ‘French in Medieval Ireland and the Serendipity of Scholarship’, yn olrhain datblygiad ei waith enwog ar yr hyn a alwyd ganddo yn ‘Ffrancophonia ganoloesol’ ac, yn arbennig, ei ddiddordeb yn ei chyd-destunau Gwyddelig. Dilynwyd darlith yr Athro Busby gan (ail!) lansiad Festschrift er anrhydedd iddo, Medieval French on the Move, ac roeddem wrth ein bodd i gael cwmni cyfranwyr a ffrindiau, ar-lein ac yn bersonol, i ddathlu gyda’n gilydd.

Hoffai drefnwyr y gynhadledd ddiolch yn ddiffuant i’r siaradwyr a chyfranogwyr am gymryd rhan yn y gynhadledd. Edrychwn ymlaen at lawer mwy o sgyrsiau goleuol yn y dyfodol.
Trefnwyd Cynhadledd Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd ar y cyd gan brosiect ‘Mapio’r Mers: Cymru a Lloegr Canoloesol, c. 1282–1550’ (ERC–UKRI) a phrosiect Dr Luciana Cordo Russo, ‘Charlemagne in Wales: The Transmission, Reception, and Translation of Charlemagne Narratives in Medieval Wales’ (Cymrodoriaeth Ryngwladol Newton yr Academi Brydeinig). Am gyllid ychwanegol, rydym yn ddiolchgar i Gyfadran y Celfyddydau, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bryste, y Gymdeithas Astudiaethau Ffrengig DU, a’r Gymdeithas Lenyddiaeth Lysyddol Ryngwladol (Cangen Brydeinig a Gwyddelig). Trefnwyd lansiad Medieval French on the Move mewn cydweithrediad â’r Athro Leah Tether (Prifysgol Bryste) gyda chefnogaeth De Gruyter.