Am y Prosiect

Mae’r prosiect Mapio’r Mers: Cymru a Lloegr Canoloesol, c. 1282–1550 yn anelu at greu’r hanes diwylliannol holistig cyntaf o Fers canoloesol Cymru, y ffindiroedd rhwng Cymru a Lloegr lle’r oedd poblogaeth amrywiol o siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn byw yn y cyfnod rhwng 1282 a 1550.

Derbyniodd y prosiect gyllid o €2.5 miliwn gan gynllun Grant Uwch Cyngor Ymchwil Ewrop yn 2022, ac wedi hynny cafodd ei gyllido dan warant cyllido UKRI. Bydd yn cael ei gynnal rhwng 2023 a 2028, dan arweiniad y Prif Ymchwilydd, Helen Fulton, mewn partneriaeth gyda Research IT ym Mhrifysgol Bryste a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Y prif amcanion yw:

  • canfod a dadansoddi’r testunau a’r llawysgrifau gafodd eu cynhyrchu a’u cylchredeg yn y Mers canoloesol.
  • creu cyfres wreiddiol o fapiau digidol o arglwyddiaethau’r Mers ar wahanol ddyddiadau yn ystod y cyfnod.
  • cysylltu’r testunau a’r mapiau drwy gyfrwng prosopograffeg, gan ddelweddu prif dai’r bonedd a’r abatai a dosbarthiad o destunau a llawysgrifau ar draws y mapiau yn dangos lle cawson nhw eu cynhyrchu a phwy wnaeth eu darllen a phwy oedd yn berchen arnyn nhw.
  • asesu hunaniaethau diwylliannol a rhanbarthol y Mers a’i berthnasoedd gyda’i gymydog mwy pwerus, Lloegr.

MOWLIT fydd yr astudiaeth systematig gyntaf o wleidyddiaeth geo-ddiwylliannol y Mers o ddwy ochr y ffin, gan ddatgelu gwybodaeth newydd am rwydweithiau diwylliannol a ieithyddol yn y rhanbarth amlieithog hwn o Brydain ganoloesol.

Am y tro cyntaf, bydd y prosiect hwn yn dogfennu ac yn diffinio diwylliant nodedig y Mers, a nodwyd gan amlieithedd, gwrthdaro, hunaniaethau yn ymddangos, a rhwydweithiau o ddarllenwyr ac awduron.

Bydd hefyd yn creu’r gyfres gyntaf erioed o fapiau digidol o arglwyddiaethau’r Mers, gan ddefnyddio cofnodion hanesyddol i bennu ffiniau’r arglwyddiaethau, nad ydynt erioed wedi cael eu pennu’n awdurdodol cyn hyn.

Bydd dimensiwn cymharol yn cael ei gyflwyno drwy gyfres o weithdai gydag ysgolheigion sy’n arbenigo mewn cymunedau ffiniau Ewrop ganoloesol, gan arwain at ddealltwriaethau newydd o hunaniaethau rhanbarthol a ffiniol sy’n sylfaen i hanes taleithiau ffederal ym Mhrydain ac Ewrop. Bydd yr adnoddau gaiff eu cynhyrchu yn darparu mynediad digynsail i haneswyr, ieithyddion a beirniaid llenyddol i ddaearyddiaeth ddiwylliannol y Mers Cymreig, gan agor drysau newydd at ymchwil a dadansoddi cymharol.