Cyfrannodd rhai o’r tîm i ‘Ddydd Darganfyddiad’ Prifysgol Bryste, yn yr amgueddfa ‘We the Curious’ ym Mryste ar 27 Medi. Ein nod oedd ymgysylltu plant a theuluoedd â’r ‘Map o Fryste ym 1480’, yn dangos sut olwg oedd ar y ddinas yn y flwyddyn 1480, a beth sy wedi newid ers hynny – a sut mae’r strydlun canoloesol yn dal i oroesi. Golygwyd y map gan Helen Fulton, a chafodd ei gyhoeddi gan Historic Towns Trust.




