Astudiaeth achos Mapio’r Mers: Tregrug ac Edlogan

Gan Peter Foden

Mae Tregrug erbyn hyn yn enw ar fferm ger Llangybi (Sir Fynwy) ac mae Edlogan yn enw ffordd breswyl yn Nhref Newydd Cwmbrân (Torfaen). Ond yn ystod cyfnodau hwyrach y canol oesoedd a’r cyfnodau modern cynnar roedden nhw’n enwau ar arglwyddiaethau cyffiniol, y ddwy yn eistedd o fewn ystad ehangach Ieirll y Mers a drosglwyddodd i Goron Lloegr gydag esgyniad Edward V i’r orsedd. 

Dechreuodd fy niddordeb i yn fy mhentref fy hun, Llangybi, sy’n eistedd o fewn ffiniau hanesyddol Tregrug. Mae’n bentref cymudo modern gafodd ei ddatblygu yn y 1960au o glwstwr o dai o amgylch eglwys Sant Cybi. Mae chwedl sefydlu’r eglwys, fel sy’n cael ei gofnodi yn nhri Bywyd Cybi yn Lladin yn adrodd am ei wrthdaro gyda llywodraethwr lleol o’r enw Edelig, a’r ddwy eglwys oedd yn rhodd gan Edelig i Cybi. Mae’n bosibl bod Edlogan yn deillio o enw’r llywodraethwr hwn. Mae’n ymddangos mai tirwedd diwedd y canoloesoedd, Tregrug, oedd lleoliad y cyfarfod rhwng Cybi ac Edelig – mae hi fwy neu lai’n bosibl i hwylio i’r afon Wysg o’r Hafren adeg llanw uchel, gyda phlas arglwydd ar fryn gerllaw yn edrych i lawr dros ddolydd glannau’r afon, ac o’r fan honno byddai ef a’i ddynion yn carlamu i lawr i yrru allan y tresmaswyr  [David Callander, Trawsffwurfio’r Seintiau (2024), tud 45-44 cymhariaeth o destunau amrywiol, tud 87-88 testun Lladin]   

Mers o fewn y Mers ??

Beth oedd y berthynas rhwng y ddwy arglwyddiaeth?  Pam mae eglwys Cybi yn Nhregrug yn hytrach nag Edlogan (os oedd Edelig yn arglwydd Edlogan ac yn noddwr yr eglwys)? Gallai astudio’r ffin rhwng Edlogan a Thregrug helpu i ateb y cwestiwn hwn. Yn ôl E T Davies, roedd Edlogan wedi bod yn Gwmwd, gyda Thregrug yn un o nifer o faenorau o fewn Cwmwd Bryn Buga [ET Davies, Ecclesiastical History of Monmouthshire (1953) tud.42]. 

Cafodd cylchdaith o ffiniau Tregrug ei hysgrifennu (yn Saesneg) yn 1705 pan esgynnodd Hopton Williams i Farwnigaeth Ystad Castell Llangibby. [Archifau Gwent, D3105.7].  Mae rhai geiriau ac ymadroddion yn y ddogfen hon sy’n awgrymu ei bod wedi ei chyfieithu o Gwstwmal Lladin cynharach. Er bod y ffynhonnell hon yn gynnar fodern, mae cofnodion cyfrifon ?? Tregrug o ddiwedd y canol oesoedd yn cadarnhau fod rhai lleoliadau allweddol o fewn y ffin yma o fewn yr arglwyddiaeth yn ystod y 14eg ganrif, gan felly’n ychwanegu cred iddo fod yn sefydliad hynafol  – yn nodedig ar gyfer y drafodaeth hon, gorlifdir yr afon Wysg i’r dwyrain, Sluvad (ym Mhanteg) i’r gorllewin, Pen y Glog (yn Llandegfedd) i’r de, a thir yn neu gerllaw Dyffryn Sôr i’r de orllewin. (yn Llandegfedd) [Archifau Cenedlaethol y DU, SC6/925/10-18, SC6/1202/1, SC6/1202/6-7].

Yn aml mae gan arglwyddiaethau a phlwyfi yng Nghymru a Lloegr ffiniau gwahanol. Roedd plwyf modern cynnar Llangybi yn gorwedd yn gyfan gwbl o fewn arglwyddiaeth Tregrug, ond mae’n ymddangos bod plwyfi Llandegfedd a Phanteg wedi cael eu rhannu rhwng Tregrug ac Edlogan. Mae Davies [(1953) tud 90] yn honni bod ffiniau plwyfi yn Sir Fynwy yn fwy hynafol na’r ffiniau maenorol sy’n newid yn barhaus – ‘erthygl o ffydd’ y gallen ni ei phrofi yn yr astudiaeth achos hon.  

Mae’r gylchdaith yn cychwyn yn y Pwll Ucha ar yr afon Wysg (yn fras lle mae’r llanwau uchaf yn cyrraedd). Mae’n dilyn ffin fodern y plwyf rhwng Llangybi a Thredynog, ar hyd nentydd o’r enw’r Graenog a’r Vyal neu’r Viallen [bual o bosibl, yn golygu ych neu fyfflo yn wreiddiol, ond yn drosiad am gorn yfed, ac yn yr ystyr hwn mae’r amrywiad buelyn i’w weld yng Nghyfreithiau Hywel Dda: Geiriadur Prifysgol Cymru, cf dan brif eiriau corn a bual]  a gwrthgloddiau byr – ‘ffos fawr’ yn y gorlifdir a ‘Ffoes Gwenllian’ yn agos i lle sy’n awr yn Westy Cwrt Bleddyn. Roedd Gwenllian yn Sant Celtaidd chwedlonol o’r bumed ganrif yn ogystal â ‘thywysoges goll Cymru’ wedi’i halltudio i Sempringham yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac roedd yr enw’n boblogaidd yn Sir Fynwy fodern gynnar, ond wrth gwrs gall fod yma’n enw disgrifiadol am gwrs dŵr, yn tarddu o gwen (sanctaidd) a lliant (llif). 

Roedd yr afon Sôr yn ffurfio’r ffin rhwng yr arglwyddiaethau o fewn Llandegfedd (gydag un darn cyffiniol rhyfedd rhwng Tregrug ac Arglwyddiaeth o’r enw Bistor sydd fel arall yn anhysbys), ond roedd y rhan o Banteg oedd yn gorwedd o fewn Tregrug yn dir uwch ac felly roedd ei ffiniau’n fwy cymhleth. 

….yn ffinio ar hyd y dywededig Afon Soar i un nant o’r enw Sirrowy yn rhannu plwyf(i) Panteg a Llanddewy, ac wedyn yn ffinio ar hyd yr afon Sirrowy ddywededig ac Arglwyddiaeth Edlogan yn rhannu plwyfi Panteg a Llanddewy ac o’r nant Sirrowy ddywededig yn ffinio â’r Clastiroedd sy’n eiddo i Reithordy Panteg ac i le o’r enw Crosfach, ac o’r Crosvach dywediedg yn ffinio â thiroedd Mrs Mary Taynter yn neiliadaeth Jenkin Jones a hefyd yn ffinio ag Arglwyddiaeth Edlogan ac yn ffinio hefyd â thiroedd John Hanbury Ysw i le o’r enw Rydd Elen ac yno’n ffinio ag arglwyddiaeth Wysg ac o’r lle dywededig o’r enw Rydd Elen yn ffinio ag un nant o’r enw Nant Ytwch i’r afon o’r enw’r dywededig Soar … [cyfieithiad / sillafiad wedi’i foderneiddio gan fwyaf] 

Mae’n ymddangos bod Rhyd Elen – stryd Elen – yn amrywiad o ‘Sarn Helen’, disgrifydd cyffredin o ffordd Rufeinig yn y canol oesoedd. Ac mae Croes fach yn awgrymu tirnod o waith dyn ar ffurf croes derfyn. Enw’r tir ym Mhanteg sy’n gorwedd o fewn Tregrug yw pen bryn o’r enw Sluvad, yn codi i 144m. Mae sillafiadau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg (yng nghofnodion cyfrif Tregrug) yn cynnwys Estleuarth neu Estlenarth, Slenarth [SC6/925/10-18]. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg Slowarth oedd y sillafiad arferol. [View of Account, 1540-41, Archifau Cenedlaethol y DU E315/82].  Mae angen gwneud ymchwil etymolegol i’r enw hwn. Byddai’r afon Sôr, bellach wedi’i foddi dan Gronfa Llandegfedd, wedi bod yn ffin fwy naturiol. Roedd incwm yn cael ei dderbyn o ‘Estlenarth’ yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ar gyfer porfelaeth gwartheg, caeadle gwastraff ac am gelli. [SC6/925/10-18]

Cymorth Calan Mai

Byddai’n dybiaeth hawdd ei gwneud fod Tregrug ac Edlogan wedi bod yn yr un arglwyddiaeth am gyfnod maith a bod yr arglwyddi Eingl-Normanaidd wedi cymryd uned diriogaethol oedd yn bodoli eisoes, a bod y clwstwr o arglwyddiaethau canoloesol yn ymestyn o geg yr Wysg i gefnwledydd Caerllion, Trellech a Brynbuga bob amser wedi bod yn un. Efallai bod Tregrug wedi cael ei cherfio allan o Edlogan/Edeligion (os, yn wir, y gallwn ni hafalu’r ddwy uned) a chroesiadau ffiniau a ffosydd gafodd eu creu lle nad oedd modd defnyddio nodweddion naturiol megis cyrsiau dŵr. 

Darn allweddol o dystiolaeth mewn achos Trysorlys o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg am dir ym Mhanteg oedd bod ‘y rhydd-ddeiliaid yno [yn Edlogan] yn arfer ac yn dal i dalu eu rhenti rhydd ar ddiwrnod Sant Andreas bob blwyddyn, a bob yn ail flwyddyn yn yr ŵyl a elwir Hock Day neu Ail Glame’ [E 134/6Chas1/East15].  Mae Glame yn amrywiad ar Calan Mai [GPC, dan Calan], pan oedd y taliad Cymorth Dwyflynyddol yn gyffredin yn Mrodoriaethau De Cymru [William Rees, South Wales and the March 1284-1415 (1924) tud 229 et seq.]. Does ganddo ddim cysylltiad â gwyliau’r Pasg Bychan (yr wythnos ar ôl y Pasg). Yng nghofnodion cyfrif canoloesol Iarllaeth y Mers, y gair Lladin auxilium sy’n cael ei ddefnyddio bob amser, wedi’i ddehongli fel cymorth gan haneswyr.  Mae William Rees wedi cyfeirio at enghreifftiau cyfatebol, er dan enwau tafodieithol eraill, o Ogledd Orllewin Lloegr – Yr Hen Ogledd – sy’n awgrymu y gallai fod y taliadau cyfnodol hyn fod yn hynafol dros ben, efallai’n dyddio’n ôl mor bell a’r bumed neu’r chweched ganrif. Mae Rees yn dadlau fod yna drethi ar wartheg  gan ‘Frodorion Celtaidd’ a bod eu talu ar Galan Mai yn cyd-daro â’u heidio i’w tir pori ar yr ucheldir. Mae enwau’r rhenti’n amrywio yng Nghymru ac yn Yr Hen Ogledd, ond mae’r cysylltiad gyda Chalan Mai ar gylch hirach nag un flwyddyn yn gyson. [Rees, Survivals of Ancient Celtic Custom in Mediaeval England, yn O’Donnell Lectures:  Angles and Britons, Tolkien et al (1963) tud 152 et seq.]

Nododd Yr Athro Rees fod ysbeidiau’n amrywio ac weithiau byddai Cymorth yn cael ei dalu bob  trydedd neu bedwaredd flwyddyn. Sylwodd hefyd ei fod yn cael ei dalu bob trydedd flwyddyn mewn un arglwyddiaeth yn Ne Cymru, nid ar Galan Mai, ond ar Galan Awst (ad Gulam Augusti), a’r arglwyddiaeth afreolaidd honno oedd Tregrug [Rees (1963) tud 229 fn4].  Mae tystiolaeth o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg i ganol yr unfed ganrif ar bymtheg i gadarnhau’r patrwm hwn [Archifau Cenedlaethol y DU, SC6/925/10-18, SC6/1202/1, SC6/1202/6-7, E315/82], ond mae’n debyg iddo ddod i ben yn fuan ar ôl i deulu Williams gael Tregrug yn 1544 [grant Harri VIII o wahanol faenorau ac adfowsynau i Roger Williams, Castell Llangibby MSS B1847, Llyfrgell Genedlaethol Cymru]. Ni wnaeth Rees geisio esbonio ein hangysondeb lleol. 

Yma, felly, mae gwahaniaeth amlwg rhwng Tregrug ac Edlogan. Gallai astudio hyn ddatgelu rhywbeth am hanes cynharach y ddau a’r berthynas rhyngddynt. Y cylch Calan Mai dwyflynyddol oedd y mwyaf cyffredin, felly mae’n rhaid bod rhywbeth anghyffredin am Dregrug. Yn ddaearyddol, mae’r dirwedd i’r gogledd a’r de o’n ffin yn debyg ar wahân i’r ffaith fod gan Tregrug ardal fawr o orlifdir yng nghwm isaf yr Wysg. Mae Calan Awst yn awgrymu cynhaeaf: efallai bod Cymorth yma’n cyfeirio at gynhaeaf yn hytrach na heidio gwartheg. Rhywbeth i’w wneud â bwydlysyddiaeth asgetig Cymreig o bosib? Ond mae cyfrif Tregrug o’r bymthegfed ganrif yn nodi bod y cymorth  oedd yn cael ei dalu gan y brodorion yn amrywio gan ei fod yn cael ei asesu ar nifer eu hanifeiliaid. [SC6/928/19]. Felly mae’n ymddangos ei fod yn cael ei ddeall ar y pryd fel treth ar wartheg. Tybed a fydda Calan Awst wedi bod yn ddyddiad mwy priodol ar gyfer heidio gwartheg i ddolydd y gorlifdir, ar ôl cynaeafu gwair? Yn draddodiadol dim ond ym misoedd Awst a Medi yr oedd gorlifdiroedd yn cael eu pori [floodplainmeadows.org.uk].  Mae cofnodion cyfrifon Tregrug yn dogfennu cynaeafu gwair mewn nifer o leoliadau ar y gorlifdir yn y bedwaredd ganrif ar ddeg (Crowe, Kilhelig, Hele) gan gadarnhau fod yr ardaloedd hynny yn gorwedd o fewn yr arglwyddiaeth, ac yn anuniongyrchol, mae’n debyg, fod peth draeniad ac arallgyfeirio prif wely’r afon eisoes wedi cael ei gwblhau [SC6/928/10-18]. 

Gallai esboniadau eraill mwy ffansïol o’r Auxilium neu’r Cymorth anghyffredin hwn ar 1af Awst gynnwys yr ŵyl Geltaidd hynafol, Lughnasadh, sy’n fwy cyffredin mewn cyd-destunau Albanaidd a Gwyddelig, er bod Ronald Hutton yn sôn am ryw dystiolaeth Gymreig wan wedi’i chyflwyno gan Maire MacNeill, yn cynnwys arferion traddodiadol o ddringo mynyddoedd yn Ne Cymru ar 1af Awst, a thrafodaeth ynghylch a oes gan Gula Augisti yn y Lladin etymoleg Gymraeg. Gwŷl Awst [Hutton, Stations of the Sun (1996) tud 327-331].  Mae rhai ffynonellau hwyr hefyd yn gosod dydd gŵyl Sant Cybi ym mis Awst [https://seintiadur.saints.wales/chwilio.php?saintid=40], a byddai cysylltu hyn â Chymorth yn gofyn am sawl naid o ffydd i fydoedd Celtigiaeth. 

Eglwysi a’u tiroedd 

Gallai trethi pabaidd teirblwydd ac ymweliadau esgobol awgrymu cysylltiad eglwysig. Ydy hi’n bosibl fod Tregrug gyfan yn eiddo i’r eglwys cyn dyfodiad Arglwyddi Eingl-Normanaidd y Mers? Yn ei Fuchedd, dywedir fod Sant Cybi wedi derbyn dwy eglwys [Callander, tud 88]: Ydy hi’n bosibl fod y diriogaeth gyfan wedi’i cherfio allan o arglwyddiaeth Edelig? Wedi’r cyfan, mae’n cynnwys dwy eglwys heddiw – Llangybi a Llandegfedd. 

Pa mor hen yw ffiniau’r plwyfi a chlastiroedd yn arglwyddiaeth Tregrug? Mae eglwysi Cymru, fel sy’n hysbys, wedi deillio’n draddodiadol o gapeli arunig a chymunedau mynachod. Efallai bod mapiau degwm yn ffynhonnell anacronistig ar gyfer tirfeddiannaeth hanesyddol, ond hwy yw’r mapiau cynhwysfawr gorau a chynharaf sydd ar gael. Maen nhw’n dangos clwstwr o dir oedd yn eiddo i’r eglwys ar hyd Cwm Ffrwd, weithiau mewn gweithredoedd o’r enw Gwenffrwd. Roedd gan eglwysi Henllys, Llangeview a Llanllywel i gyd dir yn agos ac o gwmpas cydlifiad y Ffrwd a’r Sor, lle’r oedd tir Siantri hefyd oedd yn eiddo i Eglwys Llandegfedd. [Deponiadau’r Trysorlys E134/8Chas1/East3]. Roedd Fferm Ton gerllaw yn cynnwys tir gafodd ei gaffael yn gynnar yn y 17 ganrif gan ‘Doctor Roboathon’, sy’n debyg o fod yn deitl clerigol [Will of Philip Powell, 1654, PROB11/237/556].  Ai cyd-ddigwyddiad oedd hi bod tir ymylol wedi cael ei roi i wahanol eglwysi’n gymharol ddiweddar, neu ai gweddillion eglwys Geltaidd gynharach oedd yma?  Mae angen astudiaeth bellach ar ddosbarthiad a hanes clastir yn y Mers. 

Fe ddaethom ar draws problem yma: does dim un o gofnodion cyfrifon Tregrug o’r 14eg a’r 15fed ganrif yn sôn o gwbl am enw plwyf Llangybi.  Mae’r holl gofnodion archif, yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Brydeinig, Archifau Gwent ac Archifau Cenedlaethol y DU yn croesgyfeirio rhwng y ddau enw, fel pe baent yn ymgyfnewidiol. Ond mae Llangybi’n rhyfedd o absennol o gofnodion ysgrifenedig rhwng tua 1200 a tua 1500 [Hywel Wyn Owen & Richard Morgan, Dictionary of the Place Names of Wales (2007) tud 264].  Mae CADW’n rhoi dyddiad o ddiwedd y bymthegfed ganrif i ffabrig Eglwys Sant Cybi, gan gydnabod yn anfoddog bod ‘hanfod’ eglwys gynharach ar y safle [https://cadwpublic-api.azurewebsites.net/reports/listedbuilding/FullReport?lang=en&id=2669]. Mae hyn i’w weld yn cyd-daro â newid enw ar gyfer y plwyf tua’r un dyddiad. Mae Trethiadau Pabaidd 1254 ac 1291 yn rhestru’r plwyf fel Tregrug, nid Llangybi [ET Davies (1953) atodiad 1].  Mae gweithredoedd tir a ddaeth i ddwylo’r teulu Williams yn ddiweddarach yn sydyn yn newid o ‘yn nhirddaliad a phlwyf Tregrug’ [1485, Llangibby Castle MSS B623, 1502, ibid. A1012]i ‘ym mhlwyf Llangybi a thirddaliad Tregrug’ [1502, ibid.B626].  Yn y cyfamser, mae Rheithor Llangybi yn dechrau ymddangos fel parti neu dyst i weithredoedd yn lle ‘person Tregrug’ neu ‘reithor Tregrug’ o gwmpas yr un pryd [Amrywolyn o sillafiad Tregrug, 1465, Badminton Muniments (1)564; Llangybi or variants, Llangibby Castle MSS:  1512, B635; 1513, B871; 1520, B39; 1522, B869; 1523, B38; 1524, B35].  Adda o Frynbuga oedd Rheithor Tregrug. 

Mae Litwrgi Sant Cybi, gafodd ei ganfod wedi’i drawsgrifio ym Muchedd Iâl, hefyd yn debyg o fod yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif, ond yn tarddu o Ogledd Cymru [David Callendar, Trawsffurfio’r Seintiau (2024) tud 91, a darlith yn Eglwys Sant Cybi, Mehefin 2023]. Felly mae’n debyg bod adfywiad yn y diddordeb mewn Seintiau Celtaidd, wedi’i annog gan Deyrnoedd y Tuduriaid ar ôl 1485. Roedd ailgysegru plwyf oedd ar y pryd dan nawdd frenhinol i un o’r seintiau hyn yn weithred ddewr. Ai ailgysegriad oedd hyn neu gysegriad newydd? Ac a fu Arglwyddiaeth Tregrug erioed yn lleoliad cyfarfyddiad chwedlonol Cybi ag Edelig? 

Am yr awdwr:

Amser maith yn ôl, astudiodd Peter Foden ASNaC a Hanes yng Nghaergrawnt, a Gweinyddu Archifau yn Lerpwl, ac ers hynny mae wedi gweithio gyda phob math o archifau – ar ddwy ochr y ddesg. Bellach mae’n ymchwilydd hanes llawrydd sy’n byw yn Sir Fynwy. Mae Peter hefyd yn addysgu paleograffeg fel darlithydd sesiynol yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth UCL. Mae wedi bod â diddordeb mawr mewn hanes Cymru, yr iaith a’r diwylliant ers blynyddoedd ac ar hyn o bryd mae’n dysgu Cymraeg gyda Choleg Gwent (Lefel Uwch).

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *