Yn gynharach eleni, rhoddodd Matt Lampitt (PDRA ar y prosiect) bapur yng Nghynhadledd Wanwyn Cymdeithas Hanes Mortimer ar y pwnc: ‘Dychmygu Tirweddau yn Llwydlo’r Oesoedd Canol’. Mae’r ddarlith ar gael ar eu sianel Youtube yma:
Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd
GALWAD AM BAPURAU
Prifysgol Bryste, 9–11 Ebrill 2025
Trefnwyr: Dr Luciana Cordo Russo a Dr Matthew Siôn Lampitt
Dros y blynyddoedd diwethaf mae llawer o ysgolheictod wedi canolbwyntio ar archwilio francophonies canoloesol y tu allan i Ffrainc, yn cynnwys ar draws y penrhynoedd Eidalaidd ac Iberaidd, yn Fflandrys a’r Iseldiroedd, yn ogystal â mewn gwahanol ranbarthau o diriogaethau’r Croesgadwyr. Fel rhanbarth lle bu cynhyrchu testunau Ffrengig cynnar a thoreithiog, mae Lloegr wedi derbyn sylw arbennig, yn fwyaf diweddar dan gyfeireb ‘Ffrangeg Lloegr’.
O fewn ac ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae ysgolheigion yn gynyddol wedi bod yn archwilio francophonies pellach, yn cynnwys Yr Alban, Iwerddon a Chymru. Dan gyfeireb ‘Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd’, mae’r gynhadledd hon yn anelu at ddwyn ynghyd a datblygu ymhellach y meysydd ymchwil hyn. Ein nod yw asesu neu ail-asesu gweithiau Ffrangeg–– boed yn ddogfennau gweinyddol neu’n destunau llenyddol––gafodd eu cynhyrchu, eu cylchredeg neu eu cyfieithu mewn tiriogaethau ieithoedd Celtaidd, i ystyried gwahanol ddulliau o gyswllt diwylliannol, ac i fynd i’r afael â’r cyd- destunau a’r ddynameg ehangach y mae’r prosesau hyn yn rhan ohonynt. Mae cwestiynau posibl i’w hystyried yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:
- Pa gymeriadau diwylliannol a gwleidyddol sy’n berthnasol i ‘Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd’? Pa destunau, llawysgrifau, awduron, noddwyr, sgrifellwyr, uchelwyr, sefydliadau ac ati allai gael eu fframio neu eu hail- fframio fel hyn?
- Beth yw swyddogaethau cyfieithu, amlieithrwydd, a ffurfiau eraill o fenthyca llenyddol neu ieithyddol, rhyngwynebu a chyfnewid?
- Beth yw’r ffordd orau i ni adnabod a chysyniadoli gofodau, fectorau a rhwydweithiau cyswllt? Beth yw’r ddynameg wledyddol sydd ar waith yn y rhain?
- Beth yw gwerth ‘Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd’ fel categori hewristig? Pa heriau a chyfleoedd methodolegol sydd i’w canfod ynddo? Beth allai’r goblygiadau ehangach fod (yn ddeallusol, yn wleidyddol, yn foesegol ac ati)?
Rydym yn gwahodd crynodebau (200 gair) o bapurau 20 munud i’w cyflwyno gan ymchwilwyr ar bob cam gyrfa erbyn Dydd Llun 30 Medi 2024 at french-of-celtic@bristol.ac.uk. Rydym yn annog cyfranwyr i gyflwyno eu papurau yn bersonol, ond gellir eu cyflwyno ar-lein os bydd angen. Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein prif siaradwyr:
Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, FLSW
Cymrawd er Anrhydedd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant; gynt Pennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Athro Keith Busby
Athro Ffrangeg Canoloesol Emeritws Douglas Kelly, Prifysgol Wisconsin–Madison; Cymrawd yr Academi Ganoloesol America
Rydym yn falch i gyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o fwrsariaethau teithio (hyd at £250) ar gael i siaradwyr sydd yn ymchwilwyr ôl-raddedig, yn ddigyflog, neu wedi ymddeol. Byddem yn ddiolchgar pe gallech nodi eich bwriad i wneud cais am y bwrsariaethau hyn wrth gyflwyno eich crynodeb.
Mae’r gynhadledd hon yn cael ei threfnu gan y prosiectau ‘Mapio’r Mers: Cymru a Lloegr Canoloesol, c. 1282–1550’ (ERC–UKRI) a ‘Siarlymaen yng Nghymru: Trosglwyddiad, Derbyniad a Chyfieithiad Naratifau Siarlymaen yng Nghymru’r Canol Oesoedd’ (Cymrodoriaeth Ryngwladol Newton yr Academi Brydeinig).