Ffrangeg yn y Bydoedd Celtaidd

GALWAD AM BAPURAU 

Prifysgol Bryste, 9–11 Ebrill 2025

Trefnwyr: Dr Luciana Cordo Russo a Dr Matthew Siôn Lampitt

Dros y blynyddoedd diwethaf mae llawer o ysgolheictod wedi canolbwyntio ar archwilio ardaloedd Ffrengig canoloesol y tu allan i Ffrainc, yn cynnwys ar draws y penrhynoedd Eidalaidd ac Iberaidd, yn Fflandrys a’r Iseldiroedd, yn ogystal â mewn gwahanol ranbarthau o diriogaethau’r Croesgadwyr. Fel rhanbarth lle bu cynhyrchu testunau Ffrengig cynnar a thoreithiog, mae Lloegr wedi derbyn sylw arbennig, yn fwyaf diweddar dan gyfeireb ‘Ffrangeg yn Lloegr’. 

O fewn ac  ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae ysgolheigion yn gynyddol wedi bod yn archwilio ardaloedd Ffrengig pellach, yn cynnwys Yr Alban, Iwerddon a Chymru. Dan gyfeireb ‘Ffrangeg yn y Bydoedd Celtaidd’, mae’r gynhadledd hon yn anelu at ddwyn ynghyd a datblygu ymhellach y meysydd ymchwil hyn. Ein nod yw asesu neu ail-asesu gweithiau Ffrangeg – boed yn ddogfennau gweinyddol neu’n destunau llenyddol – gafodd eu cynhyrchu, eu cylchredeg neu eu cyfieithu mewn tiriogaethau ieithoedd Celtaidd, i ystyried gwahanol ddulliau o gyswllt Diwylliannol, ac i fynd i’r afael â’r cyd-destunau a’r ddynameg ehangach y mae’r prosesau hyn yn rhan ohonynt. Mae cwestiynau posibl i’w hystyried yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i’r canlynol: 

  • Pa gymeriadau diwylliannol a gwleidyddol sy’n berthnasol i ‘Ffrangeg yn y Bydoedd Celtaidd’? Pa destunau, llawysgrifau, awduron, noddwyr, sgrifellwyr, uchelwyr, sefydliadau ac ati allai gael eu fframio neu eu hail-fframio fel hyn? 
  • Beth yw swyddogaethau cyfieithu, amlieithrwydd, a ffurfiau eraill o fenthyca llenyddol neu ieithyddol, rhyngwynebu a chyfnewid? 
  • Beth yw’r ffordd orau i ni adnabod a chysyniadoli gofodau, fectorau a rhwydweithiau cyswllt? Beth yw’r ddynameg wledyddol sydd ar waith yn y rhain? 
  • Beth yw gwerth ‘Ffrangeg yn y Bydoedd Celtaidd’ fel categori hewristig? Pa heriau a chyfleoedd methodolegol sydd i’w canfod ynddo? Beth allai’r goblygiadau ehangach fod (yn ddeallusol, yn wleidyddol, yn foesegol ac ati)? 

Rydym yn gwahodd crynodebau (200 gair) o bapurau 20 munud i’w cyflwyno gan ymchwilwyr ar bob cam gyrfa erbyn Dydd Llun 30 Medi 2024 at french-of-celtic@bristol.ac.uk.  Rydym yn annog cyfranwyr i gyflwyno eu papurau yn bersonol, ond gellir eu cyflwyno ar-lein os bydd angen. Bydd manylion pellach am y prif siaradwyr ac am fwrsariaethau teithio yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach. 

Mae’r gynhadledd yn cael ei chyllido gan y prosiectau ‘Mapio’r Mers: Cymru a Lloegr y Canol Oesoedd, c. 1282-1550’ (ERC–UKRI) a ‘Siarlymaen yng Nghymru: Trosglwyddiad, Derbyniad a Chyfieithiad Naratifau Siarlymaen yng Nghymru’r Canol Oesoedd’ (Cymrodoriaeth Ryngwladol Newton yr Academi Brydeinig). 

Logo of the European Research Council
The logo UK Research and Innovation

Cynnydd y Prosiect: Gwanwyn 2024

Cynnydd y Prosiect: Gwanwyn 2024 

Croeso i brosiect ‘Mapio’r Mers’! Ar gyfer ein post blog cyntaf roedden ni’n meddwl y bydden ni’n rhoi diweddariad ar rai o’r pethau rydyn ni wedi bod yn eu gwneud dros y misoedd diwethaf.  

Llunio terfynau plwyfi a threfgorddau 

Trwy Ionawr a Chwefror, bu Rachael yn mapio ffiniau plwyfi a threfgorddau Sir Ddinbych hynafol, tra bu Jon yn gweithio ar Sir Gaernarfon ac Ynys Môn. Gan ddefnyddio’r mapiau Arolwg Ordnans (AO) 6” gwreiddiol o ddechrau’r ugeinfed ganrif, ynghyd â data mapio AO modern, bydd y ffiniau hyn yn darparu sylfaen i greu mapiau digidol o’r arglwyddiaethau a leolir ar hyd y Mers.  

Mae terfynau trefgordd yn elfen hollbwysig i’r map, gan eu bod yn sail unedau gweinyddol a oedd yn llywodraethu’r rhan fwyaf o Gymru. Byddwn ni’n uno trefgorddau a phlwyfi perthnasol er mwyn creu ffiniau’r arglwyddiaethau. Bydd hyn yn creu’r set gyntaf erioed o fapiau digidol o’r argwlyddiaethau mewn manylder digynsail. 

Bydd y mapiau hyn ar gael at ddefnydd cyhoeddus, naill ai i ryngweithio â nhw ar ein gwefan, neu i’w defnyddio ar gyfer ymchwil unigol. Unwaith y bydd gennym haenau digidol wedi’u cymryd o’r mapiau AO gwreiddiol ar gyfer cyfander y Mers, byddwn ni’n gweithio yn ôl mewn amser i bennu lle yn union yr oedd ffiniau’n gorwedd yn yr Oesoedd Canol, gan ddefnyddio mapiau a ffynonellau dogfennol.   

  Ffiniau plwyfi and thregorddau siroedd hynafol Ynys Môn, Sir Gaernarfon, a Sir Ddinbych                                                                

Ymchwil Archifol 

Mae cyfran o’r ymchwil archifol yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud yn ymwneud â’r ffiniau digidol. Un nod yw pennu pa ardaloedd oedd yn gorwedd o fewn pob arglwyddiaeth bob hanner can mlynedd o fewn terfynau amserol ein prosiect (1250–155). A oedd hyn wastad yn gyson, neu a oedd rhai tiroedd yn symud rhwng arglwyddiaethau? Un o’r ffyrdd yr ydyn ni’n olrhain hyn yw drwy gofnodion sy’n ymwneud â gweinyddu’r aglwyddiaeth, megis rholiau rhent a chyfrifon stiwardiaid, er mwyn gweld pa leoliadau sydd wedi’u cynnwys.  

Ym mis Chwefror, aeth Rachael i’r Archifau Cenedlaethol (TNA) i ddechrau’r ymchwil hwn ar gyfer arglwyddiaethau gogleddol Brwmffild a Iâl, Swydd y Waun, a Dinbych. Mae’r ddelwedd isod yn enghraifft o gyfrif gweinidog ar gyfer Brwmffild a Iâl. Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i sut roedd trigolion y  Mers yn deall ac yn siarad am ffiniau arglwyddiaethau – mwy am hynny’n fuan! 

Cyfrif arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. TNA: SC6/HENVIII/4996  

Nod arall ein prosiect yw cysylltu pobl â’r lleoedd yn y Mers yr oeddent yn gysylltiedig â nhw mewn amrywiaeth o ffurfiau –– fe allen nhw wedi bod yn breswylydd, yn dal swydd, yn ymweld, neu’n gysylltiedig â llawysgrif a gynhyrchwyd neu a gylchredwyd yno. 

Un o’r llawysgrifau yr edrychodd Rachael arni yn yr Archifau Cenedlaethol oedd arolwg arglwyddiaeth Bwmffild a Iâl, sy’n nodi cannoedd o unigolion a oedd yn byw o fewn yr arglwyddiaeth. Trefnwyd yr arolwg hwn yn ôl trefgorddau, a fydd hyn yn ein galluogi i gysylltu unigolion yn ddigidol â’r trefgorddau y mae Rachael a Jon wedi’u mapio. Gweler isod ddelwedd o un ffolio ar gyfer trefgordd Marford a Hosseley. Mae’r unigolion a’u lleoliadau’n cael eu mewnbynnu i’n cronfa ddata y byddwn ni wedyn yn ei chysylltu â’r mapiau.  

Extent arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. TNA: LR2/251  

Gwiliwch y gofod hwn am astudiaethau achos, mwy o wybodaeth am destunau llenyddol a llawysgrifau’r Mers, a rhagor o adroddiadau cynnydd!