Cynhadledd Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd

Datblygwyd yr ymadrodd ‘Ffrangeg Lloegr’ (‘The French of England’) am y tro cyntaf ryw 15 mlynedd yn ôl gydag ymddangosiad y gyfrol ddylanwadol o ysgrifau, Language and Culture in Medieval Britain: The French of England, c. 1100–c. 1500, a olygwyd gan Jocelyn Wogan-Browne o Brifysgol Fordham a’i thîm o gydweithwyr. Mae gwefan y prosiect yn nodi:

‘‘The French of England’ is a term originally designed to challenge easy equations of England with English and to create more attention to a large strand of England’s multilingual culture. … Our new term with its restriction to ‘England’ is designed to suggest that British Frenches cannot be adequately considered through English perspectives: if there is a French of England, there are also Frenches of Wales, Ireland, Scotland, each having its own distinctive history while also participating in the wider stories of French in medieval Europe.’ (https://frenchofengland.ace.fordham.edu)

Am dri diwrnod yr wythnos diwethaf, roedd yn bleser gennym groesawu i Fryste (yn yr heulwen braf!) cynrychiolwyr o bob rhan o’r DU, Ewrop a Gogledd America, gan ymuno ar-lein ac yn bersonol, ar gyfer Cynhadledd ‘Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd’. Ein nod oedd dod ag arbenigwyr mewn astudiaethau canoloesol Celtaidd a Ffrangeg at ei gilydd er mwyn derbyn y gwahoddiad a roddwyd gan y prosiect ‘Ffrangeg Lloegr’ i feddwl am sut olwg fyddai ar Ffrangegau Iwerddon, yr Alban, Cymru, Llydaw a Chernyw. Beth yw eu cyd-destunau, eu taflwybrau a’u dynamegau penodol? Pa heriau a chyfleoedd methodolegol sydd yn y fantol? Beth yw eu goblygiadau ehangach i hanesion ieithyddol, diwylliannol a gwleidyddol ein gwladwriaethau, is-wladwriaethau, a rhanbarthau modern?

Cawsom y fraint o agor y gynhadledd gydag anerchiadau gan yr Athro Helen Simpson, Dirprwy Is-ganghellor Cyswllt (Ymchwil ac Arloesedd) ym Mhrifysgol Bryste a Dr Tristan Kay, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol. 

Anerchiad croeso gan yr Athro Helen Simpson
Anerchiad croeso gan Dr Tristan Kay

Mae’r rhain yn gosod y llwyfan ar gyfer rhaglen wych o bapurau eang eu cwmpas yn archwilio cymhlethdodau cyd-destunau Celtaidd yr iaith Ffrangeg ganoloesol yn ei swyddogaethau llenyddol a gweinyddol. Mae’n amhosib tynnu sylw at gyfraniadau unigol, ond roeddem yn arbennig o falch o groesawu dau brif siaradwr, sydd yn enwog yn rhyngwladol am eu gwaith arloesol yn y maes hwn.

Prif-ddarlith Dr Lloyd-Morgan

Y cyntaf oedd Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, Cymrawd er Anrhydedd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gynt Pennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Aeth darlith Dr Lloyd-Morgan, ‘In Search of French Manuscripts in Medieval Wales’, â ni ar daith hynod ddiddorol o amgylch y testunau Ffrangeg a oedd yn cylchredeg yng Nghymru’r Oesoedd Canol, fel y tystiwyd mewn amrywiaeth o gofnodion a chyfieithiadau.

Prif-ddarlith yr Athro Keith Busby

Traddodwyd ein hail brif-ddarlith gan yr Athro Keith Busby, Athro Ffrangeg Canoloesol Emeritws Douglas Kelly, Prifysgol Wisconsin–Madison a Chymrawd Academi Ganoloesol America. Roedd darlith yr Athro Busby, ‘French in Medieval Ireland and the Serendipity of Scholarship’, yn olrhain datblygiad ei waith enwog ar yr hyn a alwyd ganddo yn ‘Ffrancophonia ganoloesol’ ac, yn arbennig, ei ddiddordeb yn ei chyd-destunau Gwyddelig. Dilynwyd darlith yr Athro Busby gan (ail!) lansiad Festschrift er anrhydedd iddo, Medieval French on the Move, ac roeddem wrth ein bodd i gael cwmni cyfranwyr a ffrindiau, ar-lein ac yn bersonol, i ddathlu gyda’n gilydd.

Yr Athro Leah Tether yn cyflwyno lansiad Medieval French on the Move: Essays in Honour of Keith Busby

Hoffai drefnwyr y gynhadledd ddiolch yn ddiffuant i’r siaradwyr a chyfranogwyr am gymryd rhan yn y gynhadledd. Edrychwn ymlaen at lawer mwy o sgyrsiau goleuol yn y dyfodol.

Trefnwyd Cynhadledd Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd ar y cyd gan brosiect ‘Mapio’r Mers: Cymru a Lloegr Canoloesol, c. 1282–1550’ (ERC–UKRI) a phrosiect Dr Luciana Cordo Russo, ‘Charlemagne in Wales: The Transmission, Reception, and Translation of Charlemagne Narratives in Medieval Wales’ (Cymrodoriaeth Ryngwladol Newton yr Academi Brydeinig). Am gyllid ychwanegol, rydym yn ddiolchgar i Gyfadran y Celfyddydau, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bryste, y Gymdeithas Astudiaethau Ffrengig DU, a’r Gymdeithas Lenyddiaeth Lysyddol Ryngwladol (Cangen Brydeinig a Gwyddelig). Trefnwyd lansiad Medieval French on the Move mewn cydweithrediad â’r Athro Leah Tether (Prifysgol Bryste) gyda chefnogaeth De Gruyter.

Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd

GALWAD AM BAPURAU
Prifysgol Bryste, 9–11 Ebrill 2025
Trefnwyr: Dr Luciana Cordo Russo a Dr Matthew Siôn Lampitt

Dros y blynyddoedd diwethaf mae llawer o ysgolheictod wedi canolbwyntio ar archwilio francophonies canoloesol y tu allan i Ffrainc, yn cynnwys ar draws y penrhynoedd Eidalaidd ac Iberaidd, yn Fflandrys a’r Iseldiroedd, yn ogystal â mewn gwahanol ranbarthau o diriogaethau’r Croesgadwyr. Fel rhanbarth lle bu cynhyrchu testunau Ffrengig cynnar a thoreithiog, mae Lloegr wedi derbyn sylw arbennig, yn fwyaf diweddar dan gyfeireb ‘Ffrangeg Lloegr’.

O fewn ac ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae ysgolheigion yn gynyddol wedi bod yn archwilio francophonies pellach, yn cynnwys Yr Alban, Iwerddon a Chymru. Dan gyfeireb ‘Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd’, mae’r gynhadledd hon yn anelu at ddwyn ynghyd a datblygu ymhellach y meysydd ymchwil hyn. Ein nod yw asesu neu ail-asesu gweithiau Ffrangeg–– boed yn ddogfennau gweinyddol neu’n destunau llenyddol––gafodd eu cynhyrchu, eu cylchredeg neu eu cyfieithu mewn tiriogaethau ieithoedd Celtaidd, i ystyried gwahanol ddulliau o gyswllt diwylliannol, ac i fynd i’r afael â’r cyd- destunau a’r ddynameg ehangach y mae’r prosesau hyn yn rhan ohonynt. Mae cwestiynau posibl i’w hystyried yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:

  • Pa gymeriadau diwylliannol a gwleidyddol sy’n berthnasol i ‘Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd’? Pa destunau, llawysgrifau, awduron, noddwyr, sgrifellwyr, uchelwyr, sefydliadau ac ati allai gael eu fframio neu eu hail- fframio fel hyn?
  • Beth yw swyddogaethau cyfieithu, amlieithrwydd, a ffurfiau eraill o fenthyca llenyddol neu ieithyddol, rhyngwynebu a chyfnewid?
  • Beth yw’r ffordd orau i ni adnabod a chysyniadoli gofodau, fectorau a rhwydweithiau cyswllt? Beth yw’r ddynameg wledyddol sydd ar waith yn y rhain?
  • Beth yw gwerth ‘Ffrangeg y Bydoedd Celtaidd’ fel categori hewristig? Pa heriau a chyfleoedd methodolegol sydd i’w canfod ynddo? Beth allai’r goblygiadau ehangach fod (yn ddeallusol, yn wleidyddol, yn foesegol ac ati)?

Rydym yn gwahodd crynodebau (200 gair) o bapurau 20 munud i’w cyflwyno gan ymchwilwyr ar bob cam gyrfa erbyn Dydd Llun 30 Medi 2024 at french-of-celtic@bristol.ac.uk. Rydym yn annog cyfranwyr i gyflwyno eu papurau yn bersonol, ond gellir eu cyflwyno ar-lein os bydd angen. Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein prif siaradwyr:

Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, FLSW

Cymrawd er Anrhydedd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant; gynt Pennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yr Athro Keith Busby

Athro Ffrangeg Canoloesol Emeritws Douglas Kelly, Prifysgol Wisconsin–Madison; Cymrawd yr Academi Ganoloesol America

Rydym yn falch i gyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o fwrsariaethau teithio (hyd at £250) ar gael i siaradwyr sydd yn ymchwilwyr ôl-raddedig, yn ddigyflog, neu wedi ymddeol. Byddem yn ddiolchgar pe gallech nodi eich bwriad i wneud cais am y bwrsariaethau hyn wrth gyflwyno eich crynodeb.

Mae’r gynhadledd hon yn cael ei threfnu gan y prosiectau ‘Mapio’r Mers: Cymru a Lloegr Canoloesol, c. 1282–1550’ (ERC–UKRI) a ‘Siarlymaen yng Nghymru: Trosglwyddiad, Derbyniad a Chyfieithiad Naratifau Siarlymaen yng Nghymru’r Canol Oesoedd’ (Cymrodoriaeth Ryngwladol Newton yr Academi Brydeinig).

Cynnydd y Prosiect: Gwanwyn 2024

Cynnydd y Prosiect: Gwanwyn 2024 

Croeso i brosiect ‘Mapio’r Mers’! Ar gyfer ein post blog cyntaf roedden ni’n meddwl y bydden ni’n rhoi diweddariad ar rai o’r pethau rydyn ni wedi bod yn eu gwneud dros y misoedd diwethaf.  

Llunio terfynau plwyfi a threfgorddau 

Trwy Ionawr a Chwefror, bu Rachael yn mapio ffiniau plwyfi a threfgorddau Sir Ddinbych hynafol, tra bu Jon yn gweithio ar Sir Gaernarfon ac Ynys Môn. Gan ddefnyddio’r mapiau Arolwg Ordnans (AO) 6” gwreiddiol o ddechrau’r ugeinfed ganrif, ynghyd â data mapio AO modern, bydd y ffiniau hyn yn darparu sylfaen i greu mapiau digidol o’r arglwyddiaethau a leolir ar hyd y Mers.  

Mae terfynau trefgordd yn elfen hollbwysig i’r map, gan eu bod yn sail unedau gweinyddol a oedd yn llywodraethu’r rhan fwyaf o Gymru. Byddwn ni’n uno trefgorddau a phlwyfi perthnasol er mwyn creu ffiniau’r arglwyddiaethau. Bydd hyn yn creu’r set gyntaf erioed o fapiau digidol o’r argwlyddiaethau mewn manylder digynsail. 

Bydd y mapiau hyn ar gael at ddefnydd cyhoeddus, naill ai i ryngweithio â nhw ar ein gwefan, neu i’w defnyddio ar gyfer ymchwil unigol. Unwaith y bydd gennym haenau digidol wedi’u cymryd o’r mapiau AO gwreiddiol ar gyfer cyfander y Mers, byddwn ni’n gweithio yn ôl mewn amser i bennu lle yn union yr oedd ffiniau’n gorwedd yn yr Oesoedd Canol, gan ddefnyddio mapiau a ffynonellau dogfennol.   

  Ffiniau plwyfi and thregorddau siroedd hynafol Ynys Môn, Sir Gaernarfon, a Sir Ddinbych                                                                

Ymchwil Archifol 

Mae cyfran o’r ymchwil archifol yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud yn ymwneud â’r ffiniau digidol. Un nod yw pennu pa ardaloedd oedd yn gorwedd o fewn pob arglwyddiaeth bob hanner can mlynedd o fewn terfynau amserol ein prosiect (1250–155). A oedd hyn wastad yn gyson, neu a oedd rhai tiroedd yn symud rhwng arglwyddiaethau? Un o’r ffyrdd yr ydyn ni’n olrhain hyn yw drwy gofnodion sy’n ymwneud â gweinyddu’r aglwyddiaeth, megis rholiau rhent a chyfrifon stiwardiaid, er mwyn gweld pa leoliadau sydd wedi’u cynnwys.  

Ym mis Chwefror, aeth Rachael i’r Archifau Cenedlaethol (TNA) i ddechrau’r ymchwil hwn ar gyfer arglwyddiaethau gogleddol Brwmffild a Iâl, Swydd y Waun, a Dinbych. Mae’r ddelwedd isod yn enghraifft o gyfrif gweinidog ar gyfer Brwmffild a Iâl. Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i sut roedd trigolion y  Mers yn deall ac yn siarad am ffiniau arglwyddiaethau – mwy am hynny’n fuan! 

Cyfrif arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. TNA: SC6/HENVIII/4996  

Nod arall ein prosiect yw cysylltu pobl â’r lleoedd yn y Mers yr oeddent yn gysylltiedig â nhw mewn amrywiaeth o ffurfiau –– fe allen nhw wedi bod yn breswylydd, yn dal swydd, yn ymweld, neu’n gysylltiedig â llawysgrif a gynhyrchwyd neu a gylchredwyd yno. 

Un o’r llawysgrifau yr edrychodd Rachael arni yn yr Archifau Cenedlaethol oedd arolwg arglwyddiaeth Bwmffild a Iâl, sy’n nodi cannoedd o unigolion a oedd yn byw o fewn yr arglwyddiaeth. Trefnwyd yr arolwg hwn yn ôl trefgorddau, a fydd hyn yn ein galluogi i gysylltu unigolion yn ddigidol â’r trefgorddau y mae Rachael a Jon wedi’u mapio. Gweler isod ddelwedd o un ffolio ar gyfer trefgordd Marford a Hosseley. Mae’r unigolion a’u lleoliadau’n cael eu mewnbynnu i’n cronfa ddata y byddwn ni wedyn yn ei chysylltu â’r mapiau.  

Extent arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. TNA: LR2/251  

Gwiliwch y gofod hwn am astudiaethau achos, mwy o wybodaeth am destunau llenyddol a llawysgrifau’r Mers, a rhagor o adroddiadau cynnydd!