Cynnydd y Prosiect: Gwanwyn 2024
Croeso i brosiect ‘Mapio’r Mers’! Ar gyfer ein post blog cyntaf roedden ni’n meddwl y bydden ni’n rhoi diweddariad ar rai o’r pethau rydyn ni wedi bod yn eu gwneud dros y misoedd diwethaf.
Llunio terfynau plwyfi a threfgorddau
Trwy Ionawr a Chwefror, bu Rachael yn mapio ffiniau plwyfi a threfgorddau Sir Ddinbych hynafol, tra bu Jon yn gweithio ar Sir Gaernarfon ac Ynys Môn. Gan ddefnyddio’r mapiau Arolwg Ordnans (AO) 6” gwreiddiol o ddechrau’r ugeinfed ganrif, ynghyd â data mapio AO modern, bydd y ffiniau hyn yn darparu sylfaen i greu mapiau digidol o’r arglwyddiaethau a leolir ar hyd y Mers.
Mae terfynau trefgordd yn elfen hollbwysig i’r map, gan eu bod yn sail unedau gweinyddol a oedd yn llywodraethu’r rhan fwyaf o Gymru. Byddwn ni’n uno trefgorddau a phlwyfi perthnasol er mwyn creu ffiniau’r arglwyddiaethau. Bydd hyn yn creu’r set gyntaf erioed o fapiau digidol o’r argwlyddiaethau mewn manylder digynsail.
Bydd y mapiau hyn ar gael at ddefnydd cyhoeddus, naill ai i ryngweithio â nhw ar ein gwefan, neu i’w defnyddio ar gyfer ymchwil unigol. Unwaith y bydd gennym haenau digidol wedi’u cymryd o’r mapiau AO gwreiddiol ar gyfer cyfander y Mers, byddwn ni’n gweithio yn ôl mewn amser i bennu lle yn union yr oedd ffiniau’n gorwedd yn yr Oesoedd Canol, gan ddefnyddio mapiau a ffynonellau dogfennol.
Ffiniau plwyfi and thregorddau siroedd hynafol Ynys Môn, Sir Gaernarfon, a Sir Ddinbych
Ymchwil Archifol
Mae cyfran o’r ymchwil archifol yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud yn ymwneud â’r ffiniau digidol. Un nod yw pennu pa ardaloedd oedd yn gorwedd o fewn pob arglwyddiaeth bob hanner can mlynedd o fewn terfynau amserol ein prosiect (1250–155). A oedd hyn wastad yn gyson, neu a oedd rhai tiroedd yn symud rhwng arglwyddiaethau? Un o’r ffyrdd yr ydyn ni’n olrhain hyn yw drwy gofnodion sy’n ymwneud â gweinyddu’r aglwyddiaeth, megis rholiau rhent a chyfrifon stiwardiaid, er mwyn gweld pa leoliadau sydd wedi’u cynnwys.
Ym mis Chwefror, aeth Rachael i’r Archifau Cenedlaethol (TNA) i ddechrau’r ymchwil hwn ar gyfer arglwyddiaethau gogleddol Brwmffild a Iâl, Swydd y Waun, a Dinbych. Mae’r ddelwedd isod yn enghraifft o gyfrif gweinidog ar gyfer Brwmffild a Iâl. Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i sut roedd trigolion y Mers yn deall ac yn siarad am ffiniau arglwyddiaethau – mwy am hynny’n fuan!
Cyfrif arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. TNA: SC6/HENVIII/4996
Nod arall ein prosiect yw cysylltu pobl â’r lleoedd yn y Mers yr oeddent yn gysylltiedig â nhw mewn amrywiaeth o ffurfiau –– fe allen nhw wedi bod yn breswylydd, yn dal swydd, yn ymweld, neu’n gysylltiedig â llawysgrif a gynhyrchwyd neu a gylchredwyd yno.
Un o’r llawysgrifau yr edrychodd Rachael arni yn yr Archifau Cenedlaethol oedd arolwg arglwyddiaeth Bwmffild a Iâl, sy’n nodi cannoedd o unigolion a oedd yn byw o fewn yr arglwyddiaeth. Trefnwyd yr arolwg hwn yn ôl trefgorddau, a fydd hyn yn ein galluogi i gysylltu unigolion yn ddigidol â’r trefgorddau y mae Rachael a Jon wedi’u mapio. Gweler isod ddelwedd o un ffolio ar gyfer trefgordd Marford a Hosseley. Mae’r unigolion a’u lleoliadau’n cael eu mewnbynnu i’n cronfa ddata y byddwn ni wedyn yn ei chysylltu â’r mapiau.
Extent arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. TNA: LR2/251
Gwiliwch y gofod hwn am astudiaethau achos, mwy o wybodaeth am destunau llenyddol a llawysgrifau’r Mers, a rhagor o adroddiadau cynnydd!